Dirprwyo swyddogaethau Comisiwn y Senedd

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2026   |   Amser darllen munudau

1.     Yn unol â darpariaethau paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, dirprwyir drwy hyn swyddogaethau Comisiwn y Senedd, gan gynnwys ei gyfrifoldeb am reoli staff, i'r Prif Weithredwr a'r Clerc, yn ddarostyngedig i’r eithriadau a’r amodau a ganlyn.

2.     Ni ddirprwyir y materion canlynol:

a)    penodiad, telerau ac amodau, a thâl y Prif Weithredwr a’r Clerc, cynghorwyr annibynnol anweithredol y Comisiwn, ac aelodaeth o bwyllgorau cynghori Comisiwn y Senedd; na

b)    awdurdodi gwariant o dan baragraff o 6 Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (sef darparu cymorth ariannol i’r Comisiwn Etholiadol).

3.    Rhaid i'r Prif Weithredwr a'r Clerc ymgynghori â'r Comisiwn cyn:

a)    penodi ar gyfer swyddi ar lefel Cyfarwyddwyr;

b)    newid tâl a thelerau ac amodau’r staff sydd yn y swyddi hynny;

c)    creu swyddi Cyfarwyddwyr newydd neu ddiddymu swyddi Cyfarwyddwyr sydd eisoes yn bodoli;

d)    awdurdodi gwariant ar brosiectau neu gontractau sy’n werth mwy na £5 miliwn; ac

e)    awdurdodi gwariant ar faterion y gellid eu hystyried yn newydd neu’n ddadleuol.

4.    Nid yw’r ffaith bod y swyddogaethau uchod wedi’u dirprwyo yn rhwystro’r Comisiwn rhag ymgymryd â’r swyddogaethau dirprwyedig hynny.

Llofnodwyd ar ran y Comisiwn gan y Llywydd

"............................"

13 Gorffennaf 2026