Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Y Comisiynwyr
Mae’n ofynnol i’r Senedd, yn ôl y gyfraith, benodi Comisiynwyr y Senedd, sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen i’r Senedd gyflawni ei waith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan y Llywydd, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod o'r Senedd sydd wedi cael eu hethol gan y Senedd.
Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd am benderfyniadau ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau, a bydd pob aelod o'r Comisiwn yn cael ei gynnwys yn llawn yn y broses o wneud penderfyniadau.
Cyfarfodydd
Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am lwyddiant tymor hir y Senedd, i'w helpu i sicrhau ei fod yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar ac yn ddeddfwrfa sy’n gwasanaethu pobl Cymru yn effeithiol.
Y Comisiynwyr sy’n gyfrifol am drefniadau llywodraethu’r sefydliad ac maent yn atebol i’r Senedd.
Ymhlith cyfrifoldebau’r Comisiynwyr fel y 'bwrdd llywodraethu' mae gosod nodau strategol y sefydliad, darparu’r arweinyddiaeth i’w rhoi ar waith, goruchwylio’r ffordd y caiff y nodau strategol hynny eu cyflawni a chyflwyno adroddiadau a bod yn atebol i’r Senedd o ran eu stiwardiaeth.




